ISM, corff proffesiynol y DU ar gyfer cerddorion, yn gosod marciwr ar… Jump to main content

ISM, corff proffesiynol y DU ar gyfer cerddorion, yn gosod marciwr ar gyfer y dyfodol gydag enw newydd: Cymdeithas Annibynnol y Cerddorion

Daw'r ISM yn Gymdeithas Annibynnol y Cerddorion

Daw newid wrth i’r ISM gyhoeddi Dignity at Work 2: Discrimination in the music sector a ddatgelodd amrywiaeth o wahaniaethu ac aflonyddu mewn gweithleoedd cerddoriaeth, ennill achos nodedig yn y Goruchaf Lys ac wrth iddo ddyblu ei aelodaeth.

Am y 140 mlynedd diwethaf, mae Cymdeithas Gorfforedig y Cerddorion (ISM) wedi ymgyrchu ar ran y proffesiwn cerddoriaeth. Yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae’r ISM wedi ymateb i’r heriau sylweddol a wynebir gan gerddorion drwy gynyddu ei wasanaethau i aelodau, cyhoeddi adroddiadau arloesol yn seiliedig ar ymchwil wreiddiol gan ei alluogi i ymgyrchu’n ddi-ofn ar ran cerddorion a’r sector ac amddiffyn buddiannau aelodau gan gynnwys drwy'r llysoedd pan fo angen. Yn ddiweddar, mae’r rhain wedi cynnwys cyhoeddi Dignity at Work 2: Discrimination in the music sector, ennill achos nodedig yn y Goruchaf Lys ar dâl gwyliau a chodi ymwybyddiaeth o’r effaith enfawr y mae COVID-19 a Brexit wedi’i chael ar gerddorion sydd wedi arwain at newidiadau ym mholisi'r llywodraeth. Bydd enw newydd yr ISM yn ei wneud hyd yn oed yn fwy effeithiol yn ei eiriolaeth a'i gefnogaeth i'w aelodau.

Fel un o brif gyrff proffesiynol y DU, cafodd yr ISM ei gydnabod gan Wobrau Cymdeithas y DU yn 2021, pan enillodd y sefydliad Wobr Cymdeithas Aelodau Unigol y Flwyddyn. Mae'r ISM yn gymdeithas pwnc a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer cerddoriaeth. Mae effeithiolrwydd unigryw'r ISM yn y sector cerddoriaeth i'w briodoli i'w hannibyniaeth ariannol a gwleidyddol ac mae'r newid yn ei enw i Gymdeithas Annibynnol y Cerddorion yn adlewyrchu'r gwerthoedd sydd wrth ei graidd. Mae amcanion sefydlu’r ISM i gefnogi’r proffesiwn cerddoriaeth a hyrwyddo’r gelfyddyd o gerddoriaeth yn parhau heb eu newid.

Wedi’i sefydlu ym 1882, mae aelodaeth gynyddol yr ISM yn dod o bob maes o’r sector ac ar draws amrywiaeth eang o genres cerddorol, gyda cherddorion o wahanol gefndiroedd a chenhedloedd. Mae aelodau’r ISM yn cynnwys perfformwyr, athrawon cerdd, cyfansoddwyr clasurol a chyfansoddwyr cerdddoriaeth ysgafn, therapyddion cerdd, myfyrwyr cerddoriaeth, staff gweinyddu cerddoriaeth, gweithwyr proffesiynol ym maes technoleg cerddoriaeth, ac amrywiaeth eang o sefydliadau cerdd.

Mae annibyniaeth yr ISM yn caniatáu i'r sefydliad siarad ag awdurdod ar y materion sy'n wynebu cerddorion, rhywbeth y mae wedi'i wneud ers cenedlaethau. Mae'r annibyniaeth hon yn bwysicach fyth wrth i'r ISM weithio i'w aelodau i wrthsefyll unrhyw ostyngiad i amddiffyniadau cyflogaeth, delio ag argyfwng costau byw, bygythiadau i'r cwricwlwm yn ein hysgolion a achosir gan gostau cynyddol a mesurau atebolrwydd, effaith barhaus y pandemig byd-eang, heriau a grëwyd gan Brexit a materion yn ymwneud ag amrywiaeth a chynhwysiant.

Gyda chyhoeddiad Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) mae arwyddion gan y Llywodraeth ei bod yn bwriadu gwanhau amddiffyniadau gweithleoedd megis yr hawl i beidio â gweithio mwy na 48 awr yr wythnos. Mae ymchwil diweddar yr ISM yn dangos y difrod y gellir ei wneud os nad yw'r gweithle'n ddiogel. Datgelodd adroddiad mawr diweddar yr ISM Dignity at Work 2: Discrimination in the music sector fod gwahaniaethu ac aflonyddu’n rhemp mewn gweithleoedd cerddoriaeth lle mae’n hynod o anodd codi llais oherwydd diwylliant o ofn. Bydd yr ISM yn brwydro yn erbyn unrhyw ymgais gan y Llywodraeth i leihau amddiffyniadau gweithleoedd gan fod ein hymchwil yn glir i ble mae hyn yn arwain. Os yw’r Llywodraeth o ddifrif ynglŷn â chynhyrchiant yna mae angen amgylcheddau gwaith mwy diogel arnom lle mae aflonyddu, bwlio a gwahaniaethu yn perthyn i’r gorffennol.

Dywedodd Deborah Annetts, Prif Weithredwr yr ISM:

'Mae hwn yn ddiwrnod hynod gyffrous i’r ISM wrth i ni ddod yn Gymdeithas Annibynnol y Cerddorion. Mae ein hannibyniaeth wedi bod yn ffactor hollbwysig yn ein heffeithiolrwydd ers tro ac wedi ein galluogi i sicrhau newid sylweddol i’r rhai sy’n gweithio ym myd cerddoriaeth. Mae ein henw newydd yn adlewyrchu'n well ein gwerthoedd craidd a'n ffocws llwyr ar wella bywydau cerddorion.

Mae'r ychydig flynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhai o'r rhai mwyaf cythryblus a welodd y proffesiwn cerddoriaeth erioed. Mae’r ISM wedi chwarae rhan flaenllaw yn lobïo llywodraethau’r pedair gwlad a rhanddeiliaid perthnasol ar ran pawb sy’n gweithio ym myd cerddoriaeth ac ar yr un pryd yn darparu gwasanaethau hynod berthnasol megis cyngor cyfreithiol arbenigol a datblygiad proffesiynol.

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn ymwneud â'r ISM yn buddsoddi yn y dyfodol a bydd yn sicrhau bod yr ISM yn cyflawni ei weledigaeth wreiddiol ar gyfer y 140 mlynedd nesaf.;


Dywedodd Vick Bain, Llywydd yr ISM yng 100fed mlynedd y rôl:

'Mae gan yr ISM hanes aruthrol; rydym wedi bod ar flaen y gad ym mywyd cerddorol ers 140 o flynyddoedd ac rydym yn falch iawn ein bod yn cymryd y camau hyn ymlaen heddiw.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae’r ISM wedi datblygu swyddogaeth ymgyrchu gadarn ac mae ffrwyth y gwaith hwn i’w weld mewn pum adroddiad Brexit ac ymchwil arloesol i addysg cerddoriaeth gan gynnwys y ddau gyhoeddiad diweddar, Music: A subject in peril? a'r Achos dros Newid.

Mae gan yr ISM enw da am gydraddoldeb. O’r cychwyn cyntaf, croesawyd menywod fel aelodau llawn ac mae pwysigrwydd cydraddoldeb i’w weld yng ngwaith diweddar yr ISM, sef yr adroddiad
Dignity at Work 2: Discrimination in the music sector. Maent wedi bod yn sylfaen i ymgyrch yr ISM i wella profiadau gweithle’r rhai yn y sector cerddoriaeth.

Mae’r gair “Annibynnol” yn ganolog i bopeth a wnawn felly rwy’n croesawu’r enw newydd. Mae’n adlewyrchu pwy ydyn ni a beth rydyn ni’n ei wneud.'